Pwyllgor Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan 9/11/17
Presennol;
Idris Roberts, Alun Davies, Dafydd Jones, Medwyn Hughes, Arwel J Ellis, Gwyn Davies Eirian Roberts (clerc)
Ymddiheuriadau
Meredydd Ellis, Cyng Wyn Ellis
Croesawodd y Cadeirydd bawb I’r cyfarfod a hefyd Ela Williams swyddog ysgogi yn yr ardal wledig efo cyngor Conwy.
Cafwyd gwybodaeth ganddi o’r arian sydd ar gael at brosiectau cymunedol
Cod Ymddygiad;
Datgan diddordeb neu gysylltiad mewn unrhyw un o eitemau’r agenda. Neb
Cofnodion
Darllenwyd y cofnodion a’i cael yn gywir Arwel Jones Ellis yn cynnig a Dafydd Jones yn cefnogi.
Materion yn codi o’r cofnodion
Gwair ar ochr y ffordd dros y mynydd wedi ei dorri.
Maent wrthi yn gosod band llydan cyflym yn yr ardal, disgwyl tan y pwyllgor nesaf I weld fydd wedi ei osod cyn ail gysylltu gyda Geraint Strello.
Coed afalau I fod I gyrraedd yn fuan a bydd warden o’r Parc Cenedlaethol yn dod i’w plannu a chydweithio gyda phlant yr ysgol.
Eto mae y ffordd B4407 yn cael ei chau yr wythnos nesa a dim gwybodaeth gan y Cyngor cymuned pam fod hyn yn digwydd.
Gofyn i Kevin o’r adran briffyrdd ddod i gyfarfod gyda Gwyn Davies i drafod problemau ar hyd ffordd Cwm Eidda.
Arian
Medwyn yn cynnig y dylai y biliau isod gael eu talu gyda Arwel yn cefnogi
Talu am y ddefnyddio y neuadd £120
BDO £357.30
O G Evans £60 am glirio o amgylch y coed afalau, torri mieri ayb
Aethpwyd trwy sylwadau BDO a bydd y rhain yn cael eu hadolygu. J Ll Hughes fydd yr achwylydd mewnol o hyn ymlaen
Gohebiaeth
Awyr Dywyll; Cafwyd diweddariad ar y cynllun hwn
Adit Llwybrau; Gan fod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn edrych ar ôl llwybrau yr ardal teimlwyd fod hyn yn amherthnasol i Ysbyty
Bagiau tywod; gwneud mwy o ymholiadau am y rhain
UFA
Gofyn i ‘r ysgol os ydynt eisiau coed afalau o’r cynllun gan y Parc Cenedlaethol
Gwyn am ddangos problemau ardal Cwm Eidda I’radrad briffyrdd
Dyddiad y pwyllgor nesaf Ionawr 11 9fed 2018