Croeso

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan

Mae’r cyngor yn gwasanaethu cymuned Ysbyty Ifan – ardal wledig ym mhen uchaf Dyffryn Conwy a prif diwydiant yr ardal yw amaethyddiaeth. Sefydlwyd Cyngor Plwyf Ysbyty Ifan yn 1894 Diwygiwyd llywodraeth leol yn 1974 a daeth Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan i fodolaeth bryd hynny. Saif Ysbyty yng nghanol Gogledd Cymru. Dywed O Gethin Jones yn ei lyfr “Gweithiau Gethin” os saif person yng nghanol Ysbyty mai yn union yr un pellter sydd at lanw’r mor ym Maentwrog a’r llanw ger Llanrwst ar un pellter sydd i Langollen, Harlech Dinbych a Ruthin ac eto ‘ryn pellter i gastelli Cricceth Caernarfon,Beumaris a’r Waun.

Mae’r lechen sydd ger mynedfan i’r eglwys yn ddynodi mai yma oedd safle Ysbyty ac Eglwys Urdd Marchogion Sant Ioan o Jerusalem.
Tua’r flwyddyn 1190 rhoes Ifan ap Rhys o Dre Brys ( Bryn Gwyn) diroedd i’r Marchogion i sefydlu Ysbyty ac eglwys yn Nolgynwal.
Ym 1540 difrodwyd Urdd marchogion Sant Ioan a chipiwyd eu tiroedd au heiddo gan y goron. Cynhwysai’r tir hwn erbyn hynny lawer o ystadau yn ymestyn o Aberconwy i’r Bala. Trosglwyddodd y Frenhines Elizabeth Faenor Tir Ifan yr ysbyty a’r tiroedd perthynnol i’r Dr Ellis Prys “Y doctor Coch” a’i fab Thomas Prys Plas Iolyn.
Ym mynwent y plwy mae Ellis Prys (Y Dr Coch) a’i fab Thomas Prys y bardd ar morleidr wedi ei claddu. Yno hefyd mae bedd William Cynwal, pencerdd a gŵr fu yn ymryson gydag Edmwnd Prys o Gelli Lydan. Bedd pwysig arall yn y fynwent yw un Sion Dafydd Berson, athro Twm o’r Nant Ysgrif Bedd Sion Dafydd Glocsiwr ym mynwent y plwy Ysbyty Ifan “S.R. Surgeon. 1666. ANNE JONES…..ed o Medi ei hoed 59 SION DAFYDD o Bentre Vidog a gladdwyd 5ed dydd o fis Ionawr 1799 ei oed 94.

Galar –i’r ddaear ddu.Aeth athraw
Fu’n meithin beirdd Cymru;
Llafurus bu’n llefaru
Diddan fodd y dyddiau fu.
Terfynodd, hunodd rhy hud – Sion Dafydd
‘Madawai o hir fywyd
Ond cofiwn etto cyfyd
O’r ddaear bwys ddiwedd byd.

Mae yr englyn uchod wedi ei ysgrifennu gan Twm o’r Nant i’w hen athro. Erbyn heddiw mae y Cyngor yn cynrychioli ward Ysbyty Ifan a ward Cwm Eidda.Mae y mwyafrif o ffermydd yr ardal yn perthyn i’r Ymddiriadolaeth Genedlaethol ynghyd a hanner pentref Ysbyty Ifan. Tai preifat yw yr hanner arall gyda rhan helaeth yn dai
haf. Mae yr holl ardal oddifewn i Barc Cenedlaethol Eryri.
Mae yma ysgol Gynradd fywiog, hefyd mae yma glwb Ffermwyr ifanc gweithgar ynghyd a parti canu Hogiau Ysbyty a nifer o
gymdeithasau sydd yn cwrdd yn rheolaidd. Erbyn hyn nid oes na siop na thafarn yna ond mae Neuadd bentref sydd ar gael i’w llogi.