Dyletswyddau
Rhestrir isod gwestiynau cyffredin am gynghorau cymunedol, gan gynnwys sut y gallwch chi gymryd rhan yn eu gwaith.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cyngor chymuned a chyngor sir
Mae gan y cynghorau sir gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau fel addysg, iechyd yr amgylchedd, gwasanaethau cymdeithasol a chynllunio tref a gwlad ar gyfer y sir gyfan.
Mae’r cynghorau cymuned yn cynrychioli cymunedau unigol o fewn y sir. Mae ganddynt bwerau cyfreithiol i gyflenwi rhai gwasanaethau, ond mae ganddynt lai o gyfrifoldebau. Mae’r cynghorau cymuned yn gweithio’n agos gyda chynghorau sir yr ardal ac yn cynrychioli buddiannau eu cymunedau.
Mae’n rhaid i’r cynghorau sir a’r cynghorau chymuned gydweithio mewn partneriaeth i sicrhau’r gwasanaethau a’r canlyniadau gorau ar gyfer y bobl sy’n byw yn yr ardal. Efallai y bydd hyn yn golygu bod cynghorau sir yn dyrannu arian i gynghorau chymuned er mwyn iddynt fedru darparu gwasanaeth ar lefel leol. Gall cytundebau siarter fod yn sail dda iawn ar gyfer y berthynas honno rhwng y cynghorau sir a’r cynghorau chymuned.
Pa bwerau sydd gan y cynghor chymuned?
Mae gan y cynghorau chymuned y gallu i ddarparu nifer o wasanaethau, ac mae hynny’n dibynnu ar faint y gymuned y maen nhw’n ei chynrychioli, a’u cyllidebau. Dyma enghreifftiau o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan gynghorau tref a chymuned:
Mae’r cynghorau chymuned yn gweithio’n agos gyda’r cynghorau sir yn yr ardal ac yn cynrychioli buddiannau eu cymunedau. Hefyd, maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill (gan gynnwys cynghorau chymuned eraill yn yr ardal) i ddarparu gwasanaethau. Drwy gynnig cefnogaeth, gan gynnwys cyllid, cyfarpar neu adeiladau, gall y cynghorau chymuned helpu cyrff eraill hefyd i ddarparu gwasanaethau fel gofal plant, gwasanaethau i’r henoed, mentrau amgylcheddol a gweithgareddau’n ymwneud â’r celfyddydau a chwaraeon.
Mae Canllaw y Cynghorydd Da 2012 yn rhoi rhagor o fanylion am y pwerau sydd ar gael i’r cynghorau tref a chymuned. Gallwch ddod o hyd i’r ddogfen yn y Dolenni Perthnasol ar y dde.
Sut y gallaf leisio fy marn i’r cyngor cymuned?
Mae dyletswydd ar gynghorau chymuned i ystyried barn pawb sy’n byw yn eu cymuned. Dylent hefyd ofyn am farn yr etholwyr a’r rheini nad ydynt yn gallu pleidleisio, fel pobl ifanc.
I wneud hyn, efallai y bydd eich cyngor yn cynnal amrywiaeth o ymarferion ymgynghori ar hyd y flwyddyn. Yno, bydd modd i chi roi’ch barn ar fater penodol neu roi’ch barn yn gyffredinol ar y gymuned. Hefyd, gall eich cyngor gynnal cyfarfod o’r cymuned lle mae modd i’r etholwyr drafod gwaith y cyngor a’r hyn sy’n digwydd yn yr ardal. Gallai’r etholaeth gynnal cyfarfod o’r fath os y cânt gais gan 10% o’r etholwyr neu 50 ohonynt, p’un bynnag yw’r lleiaf.
Mae cyfarfodydd y cyngor, ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau yn agored i’r cyhoedd, ac eithrio pan fo materion sensitif iawn yn cael eu trafod. Mae Llywodraeth Cymru yn annog y cynghorau chymuned i wahodd aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan yn y cyfarfodydd. Mae rhai cynghorau yn pennu amser penodol yn eu cyfarfodydd fel bod aelodau’r cyhoedd yn gallu mynegi’u barn neu holi cwestiynau.
Gallwch ysgrifennu at eich cyngor cymuned ar unrhyw adeg. Os oes cyfeiriad e-bost gan eich cyngor gallwch anfon e-bost. Os nad oes modd i chi ddod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer eich cyngor cymuned, gall eich cyngor sir eich cynorthwyo.
Drwy wneud hyn, gallwch gael gwybodaeth fanylach, drwy gyfrwng cyhoeddiadau am y cynghorau chymuned, a’u gwaith. Mae canllawiau ar gael i gynghorwyr, ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth ac ymgyngoriadau.
Rydw i o dan 18 mlwydd oed – sut y gallaf gyfrannu?
Mae dyletswydd ar gynghorau chymuned i ystyried sylwadau pawb sy’n byw yn eu cymuned, gan gynnwys pobl ifanc. Mae deddfwriaeth, sef Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a.118-121, yn rhoi’r pŵer i’r cynghorau chymuned benodi hyd at ddau gynrychiolydd ieuenctid (16-25 oed) i gynrychioli buddiannau’r bobl ifanc sy’n byw, yn gweithio neu’n derbyn eu haddysg neu eu hyfforddiant yn yr ardal. Mae rhai cynghorau wedi sefydlu cyngor ieuenctid neu bwyllgor o bobl ifanc er mwyn gwrando ar farn y bobl ifanc hynny. Os nad oes gan eich cyngor gynrychiolwyr ieuenctid neu gyngor neu bwyllgor ieuenctid gallwch ysgrifennu at y cyngor hwnnw i ofyn iddo ystyried yr opsiynau hyn neu, a bwrw bod eich cyngor yn rhoi caniatâd, gallwch hyd yn oed godi’r mater mewn cyfarfod o’r cyngor.
Hefyd gallwch gysylltu â’ch cyngor cymuned i roi’ch barn ar bwnc a chymryd rhan mewn ymgyngoriadau a gynhelir gan y cyngor.
Pwy all fod yn gynghorydd cymuned
I fod yn gynghorydd cymuned, mae angen i chi fod dros 18 oed ac yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd.
Gellir ennill seddi ar y cyngor cymuned un ai drwy etholiad neu drwy gyfethol aelodau. Caiff pobl sydd ar y rhestr wirfoddoli eu cyfethol pan nad oes digon o ymgeiswyr yn sefyll yn ystod etholiad neu os nad yw’r etholaeth wedi cynnal etholiad pan ddaw’r sedd yn wag.
Gall cynghorwyr cymuned gynrychioli plaid wleidyddol neu gallant sefyll fel aelod annibynnol.